top of page

Ynghylch y prosiect

Kenya a Chymru

Mae’r prosiect Hynafiaid Da yn glwb artistiaid dan arweiniad pobl Dduon, sy'n gweithredu fel actifydd ac amharydd dros actifiaeth greadigol, gydweithredol, sydd wedi’i dad-drefedigaethu, sydd yn cael ei ariannu gan Banel Cynghori Is-Sahara a gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y clwb artistiaid hwn yn archwilio newid hinsawdd a natur trwy lens rhyngwladol, ac yn canolbwyntio ar Gymru ac Affrica. Mae'r Argyfwng Hinsawdd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli:
  • Ôl-troed carbon pwerau’r Gorllewin ydy prif gyfrannwr newid hinsawdd.

  • Mae prynwriaeth yn y Gorllewin yn ffin ddiwylliannol ar gyfer newid ystyrlon.

  • Gwledydd y De Byd-eang sydd fwyaf dan fygythiad yn sgil newid hinsawdd.

  • Mae mudiadau natur yn bennaf dan arweiniad y Gorllewin, ac yn gweithredu o fewn normau a strwythurau diwylliannol y Gorllewin.

  • Mae newid hinsawdd yn effeithio’n andwyol ar gymunedau wedi’u hymyleiddio, sydd â’r adnoddau lleiaf i ymdopi.

Mae cymunedau diaspora yn teimlo effaith newid hinsawdd ar ddwy ongl: yng Nghymru ac ymhlith y cymunedau maen nhw'n dod ohonynt. Mae'n effeithio arnynt ar lefel ariannol ac emosiynol, wrth iddynt barhau i gefnogi teulu a ffrindiau dramor.  Rydym eisiau hawlio man canolog o ran gwrthsefyll yr Argyfwng Natur, gan ddefnyddio cymell tawel i feithrin gweithredu dad-drefedigaethol a chreadigol dan arweiniad pobl Dduon.

​

Dydy natur ddim yn symud ar hyd ffiniau cenedlaethol, mae'r argyfwng Hinsawdd a Natur yn effeithio ar bob rhywogaeth, o blanhigion ac anifeiliaid (gan gynnwys ni fel pobl) ar draws y byd.

NGA01342.jpg

Yr Hynafiaid Da yn 2025

Daeth y prosiect Hynafiaid Da ag artistiaid at ei gilydd i archwilio’r hinsawdd a natur trwy lens rhyngwladol, wedi’i dad-drefedigaethu, oedd yn canolbwyntio ar Gymru ac Affrica. Roedd y prosiect hwn, a oedd wedi’i wreiddio yn y Clwb Artistiaid dan arweiniad pobl Dduon, yn gweithredu fel actifydd dros actifiaeth greadigol, gydweithredol, sydd yn canolbwyntio ar leisiau a phrofiadau cymunedau wedi’u hymyleiddio.

Fe wnaeth y prosiect gryfhau’r perthnasoedd rhwng artistiaid a chymunedau ar draws cyfandiroedd, ac ysgogi dealltwriaeth ddyfnach o effeithiau diwylliannol ac ecolegol ecsbloetio tir hefyd. Fe wnaeth annog cyfranogwyr i ail-ddychmygu eu rôl fel Hynafiaid Da - unigolion sy'n gweithio'n weithredol tuag at amddiffyn y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gyda'i gilydd, daeth celf, actifiaeth, a chydweithio byd-eang yn adnoddau pwerus ar gyfer ysbrydoli gwytnwch, gweithredu, a chyfiawnder amgylcheddol.

Yr Hynafiaid Da yn 2025 

Our Partners

Lottery funding strip landscape colour.png
LOGO Watch Africa.jpg
keep-wales-tidy-logos-idzKQrbL0T.png
RSPB_logo_2022.svg.png

Rhif Elusen: 1159990

SSAP, 24 Windsor Place, Cardiff, CF10 3BY

E-bost: info@ssap.org.uk

Ffon: 029 2002 8410

  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • Flickr
  • LinkedIn

© 2035 by the good ancestors. Powered and secured by Wix 

bottom of page